Wednesday, 27 March 2019

Diweddariad CGGC (WCVA) - 22-01-2018


Diweddariadau o WCVA

22 Ionawr 2018
Helo, a chroeso i'n cylchlythyr. 
Mae'r cyfnod cofrestru bellach ar agor ar gyfer gofod3, a fydd yn dychwelyd ar 8 Mawrth 2018. Roedd gofod3 y llynedd yn gymaint o lwyddiant (cymerwch gip ar yr     uchafbwyntiau yma) fe fyddwn yn meddiannu Stadiwm Dinas Caerdydd unwaith eto, gan gymryd drosodd pob un o'r pedwar llawr gyda phaneli trafod, gweithdai ac, wrth sgwrs, bwrlwm stondinau'r ardal arddangos. Sicrhewch nad ydych yn colli'r cyfle unigryw hwn i gysylltu â chydweithwyr o bob rhan o'r trydydd sector yng Nghymru. I gael gwybod mwy a chadw'ch lle, yn rhad ac am ddim, ewch ar wefan gofod3.
Gyda Brexit ar y gorwel, mae Llywodraeth Prydain wedi awgrymu cronfa olynol i gymryd lle Cronfeydd Strwythurol yr UE sydd wedi buddsoddi yng Nghymru i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Mae'n hollbwysig bod y trydydd sector yn cael cyfle i gyfrannu at y drafodaeth hon. Mae Tîm Ewropeaidd y Trydydd Sector (3-SET) yn WCVA yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ledled Cymru i'ch helpu i ymuno yn y sgwrs. Cewch wybod mwy yma.
Mwynhewch y cylchlythyr ac fe welwn ni chi eto yn fuan.



Gwirfoddoli

Ry’ ni’n #carugwirfoddoli ac rydych chithau’n #carugwirfoddoli!

Mae Gwyl Santes Dwynwen yn prysur ddynesu! Dethlir nawddsant cariadon Cymru ar 25ain Ionawr, a pha ffordd well o rannu’r cariad na rhoi gwybod i ni pam rydych yn caru gwirfoddoli!

Gwirfoddoli – does dim teimlad gwell na hyn

Mae Nerys (nid ei henw go iawn) wedi gwirfoddoli gydag oedolion agored i niwed ym Môn, gan gynnwys y rheini sy’n ddigartref ac yn dioddef salwch meddwl.

Arolwg Gwirfoddoli – i stiwardiaid diogelwch digwyddiadau

Mae Darren Crossman, Rheolwr Cyfleusterau Stadiwm Principality, yn gwneud cwrs gradd Rheoli Torfeydd a’i fodiwl presennol yw ‘Recriwtio, cadw ac ysgogi gwirfoddolwyr’.

Gwirfoddoli mewn Digwyddiadau: gwersi a ddysgwyd

Cydlynodd WCVA brosiect Ysbryd Gwirfoddoli Cymru 2015 – 17, a ariannwyd gan Ysbryd 2012

Cyllid

Cronfa Gweithredu Cymunedol Wren yn agor i geisiadau yn 2018

Mae grantiau rhwng £2,000 a £50,000 ar gael i brosiectau a all ddangos sut maent yn cyd-fynd ag Amcan D y Gronfa Cymunedau Tirlenwi. Mae Amcan D yn dangos ymrwymiad i ddiogelu’r amgylchedd, ac i ddarparu, cynnal neu wella parc cyhoeddus neu amwynder cyhoeddus arall.

Ymddiriedolaeth Scott Bader yn gwahodd ceisiadau gan brosiectau elusennol ym Mhrydain ac yn Rhyngwladol

Mae Scott Bader, y cwmni cemegol byd-eang, yn ariannu prosiectau elusennol ym Mhrydain ac yn rhyngwladol drwy dair rhaglen wahanol.

Grantiau Ymddiriedolaeth Energy People – Newid Darparwr

Mae Ymddiriedolaeth Energy People ScottishPower wedi penderfynu dod â’i rhaglen grantiau i ben a chyfuno’r cyllid mae’n ei gynnig drwy Sefydliad ScottishPower.

Sefydliad Garfield Weston yn lansio cronfa newydd gwerth £5m

Mae Sefydliad Garfield Weston wedi lansio cronfa gwerth £5m i elusennau a mudiadau cymunedol ledled Prydain fel rhan o Flwyddyn ei Ben-blwydd yn 60.

Hyfforddiant a digwyddiadau

WCVA Arolwg dysgu a datblygiad 2018

Cyfle i ddweud eich dweud ar ein rhaglen hyfforddi newydd

Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer canlyniadau gwell

Datblygu partneriaethau newydd neu wella rhai sydd eisoes yn bodoli

Rheoli prosiect a ariennir gan y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall hanfodion rheoli prosiect a ariennir gan y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol.

Cyflwyniad i adrodd straeon i godwyr arian

Mae llawer o fudiadau’n gweld mantais casglu straeon go iawn gan ddefnyddwyr gwasanaethau, staff a gwirfoddolwyr er mwyn dangos yn glir y gwaith maent yn ei wneud. Mae'r cwrs undydd hwn yn rhoi cyflwyniad i godwyr arian ar sut i ddechrau meddwl am ddefnyddio straeon yn eu mudiad.

Gweithdy: Sefydlu ac adfywio rhwydweithiau

Defnyddio ein Pecyn Cymorth Rhwydwaith i’ch helpu i sefydlu rhwydwaith newydd neu adnewyddu u

Ymddiriedolwyr a llywodraethu

Y Comisiwn Elusennau yn cyhoeddi gofynion ffurflen flynyddol 2018

Yn sgil ymgynghoriad helaeth â’r sector, mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi manylion y cwestiynau y bydd gofyn i elusennau eu hateb wrth lenwi ffurflen flynyddol 2018.

MHA Broomfield Alexander – Canllaw 11 cam i ymddiriedolwyr

Mae’r cyfrifwyr elusennau, MHA Broomfield Alexander, wedi cynhyrchu canllaw newydd i gefnogi ymddiriedolwyr wrth lywodraethu eu mudiadau, o’r enw 11 Key Steps for Trustees: 1 Giant Leap for Your Organisation

Polisi a gwleidyddiaeth

Ymgynghoriadau’r wythnos yma

Tri chyfle arall i gael dweud eich dweud.

Ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol - Cais am dystiolaeth

Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn am y manteision a’r effeithiau y gallwn ddisgwyl eu gweld o ganlyniad i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol.

Deg argymhelliad allweddol i hyrwyddo gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor yng Nghymru

Darparodd WCVA a nifer o fudiadau trydydd sector dystiolaeth i’r adolygiad annibynnol o iechyd a gofal cymdeithasol a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol.